David Cameron
Mae diwrnod o drafodaethau “dwys” ynglŷn â diwygio perthynas Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi dechrau wrth i David Cameron geisio sicrhau cytundeb cyn cynnal refferendwm.
Roedd llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk wedi cymeradwyo ymestyn y trafodaethau am 24 awr ar ôl i’r Prif Weinidog gyhoeddi bod datblygiad sylweddol wedi bod ynglŷn â chyfyngu budd-daliadau i ymfudwyr ond eu bod wedi methu a dod i gytundeb ynglŷn â nifer o faterion eraill.
Gobaith David Cameron oedd cwblhau’r trafodaethau ynglyn ag ail-ddiffinio perthynas Prydain gyda Brwsel dros ginio gyda Donald Tusk yn Downing Street fel ei fod yn gallu cyflwyno’r diwygiadau i arweinwyr yfory, cyn uwch-gynhadledd dyngedfennol mewn llai na thair wythnos.
Ond ar ôl llai na dwy awr o drafodaethau fe adawodd Donald Tusk Rif 10 gan ddweud bod angen gwneud “gwaith sylweddol” dros y 24 awr nesaf os oedd cytundeb drafft i’w gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae dod i gytundeb yn ystod yr uwch-gynhadledd ar 18 a 19 Chwefror yn cael ei ystyried yn hanfodol os yw David Cameron am gynnal refferendwm ar ddyfodol aelodaeth y DU o’r UE cyn gwyliau’r haf.