Fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn cyflwyno’i achos dros atal mewnfudwyr rhag hawlio budd-daliadau pan fydd yn cyfarfod â llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk ddydd Llun.

Mae disgwyl i fanylion diwygio’r Undeb Ewropeaidd gael eu cyhoeddi o fewn ychydig ddiwrnodau, cyn i uwchgynhadledd gael ei chynnal ym mis Chwefror.

Ar frig agenda’r cyfarfod ddydd Llun fydd ‘brêc brys’ ar fudd-daliadau i fewnfudwyr yng ngwledydd Prydain.

Dywed Cameron fod rhaid cyflwyno polisi o’r fath yn syth ar ôl refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cynnig wedi’i gyflwyno gan Frwsel fel opsiwn amgen i waharddiad pedair blynedd uniongyrchol sydd wedi cael ei feirniadu gan arweinwyr eraill Ewrop am ei fod yn groes i hawl pobol i symud yn rhydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe allai cynllun o’r fath fod mewn grym am hyd at saith mlynedd, ond mae Cameron yn awyddus i ddarganfod ateb hirdymor.

Fe allai’r mater gael effaith ar ddyddiad y refferendwm, ond fe fydd yn rhaid ei gynnal cyn diwedd 2017.

‘Dim angerdd nac ysbryd o frwydr’ 

Yn y cyfamser, mae llefarydd materion cartref y Blaid Lafur, Andy Burnham wedi beirniadu’r ymgyrch o blaid aros yn rhan o Ewrop, gan ddweud nad oes “angerdd nac ysbryd o frwydr” yn perthyn iddi.

Ond dywedodd fod cyflwr yr ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu cyfnod cythryblus.

Ym mhapur newydd yr Observer, dywedodd Andy Burnham: “Ni allwn oedi. Mae Brexit yn golygu torri i fyny. Os ydyn ni am ei atal, rhaid i ni ddechrau ymgyrchu nawr gyda gonestrwydd, pwrpas – ac angerdd.”

Mynegodd Burnham bryder fod yna obsesiwn gyda denu cefnogaeth busnesau i’r ymgyrch dros aros yn Ewrop, yn hytrach nag awydd i ganolbwyntio ar fater y mewnfudwyr.