Mae merch 9 mlwydd wedi marw mewn damwain ar draffordd yn Yr Alban lle cafodd gwr a gwraig hefydd eu lladd.

Bu farw’r wraig 37 oed a’r dyn 42 oed yn y fan a’r lle, yn dilyn gwrthdrawid rhwng fan a char ar draffordd yr M9 rhwng Polmont a Linlithgow yn sir West Lothian tua 9yh nos Wener.

Mae dau o bobol eraill yn dal i fod mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Brenhinol Forth Valley, ac mae person arall a gafodd ei gludo i Ysbyty Prifysgol y Frenhines Elisabeth yn ninas Glasgow mewn cyflwr difrifol.

Mewn datganiad, mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau mai gwrthdrawiad rhwng car Mercedes lliw arian a fan wen o wneuthuriad Vauxhall fu ar y ffordd, i gyfeiriad y de.