Syr Michael Caine
Mae un o actorion enwocaf Prydain wedi dweud y dylai gwledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd – oni bai bod rhywbeth “sylweddol iawn” yn digwydd.

Dywedodd Syr Michael Caine wrth raglen Today BBC Radio 4 ei fod “mwy neu lai’n sicr” bod Brexit yn beth da.

“Heblaw bod newidiadau sylweddol iawn yn digwydd, dylem adael,” meddai.

Persbectif miliwnydd Hollywood

Dywedodd yr actor o Lundain, sydd wedi dweud yn y gorffennol nad yw’n cefnogi un blaid benodol a’i fod wedi pleidleisio dros Margaret Thatcher, Tony Blair a David Cameron, fod ei gefndir dosbarth gweithiol a’i fywyd heddiw fel miliwnydd Hollywood yn rhoi persbectif prin iddo.

“Rydw i’n wleidydd yn y canol. Rwyf wedi bod yn dlawd, rwyf wedi bod ar y dôl, rwyf wedi gweithio mewn ffatrïoedd a dw i’n filiwnydd, rwyf wedi talu trethi mawr.

“Felly rwy’n gwybod am bob problem o bob ongl a does dim llawer o bobol sydd felly.”