Mae cwmni ynni E.ON wedi torri 5.1% oddi ar eu prisiau nwy wrth iddyn nhw lansio’r hyn maen nhw’n ei alw’r tariff sefydlog rhataf ar y farchnad.

Mae’r toriad yn cyfateb i £32 oddi ar y bil nwy blynyddol.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn beirniadaeth o’r diwydiant ynni am fethu â sicrhau bod cwsmeriaid yn elwa o brisiau is wrth i bris nwy ostwng.

Cafodd y diwydiant ei annog y llynedd gan yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd i wyrdroi’r sefyllfa.

Dywedodd prif weithredwr E.ON, Tony Cocker: “Tra bod y pris rydyn ni’n ei dalu ar gyfer ynni ein cwsmeriaid wedi gostwng, rhaid i ni hefyd ystyried rheoli’r amryw beryglon eraill yn y farchnad y gallwn ni eu newid, a’r ffaith y gallai nifer o’r costau eraill nad ydyn ni’n eu rheoli, ond yn eu hysgwyddo, gynyddu.”

Ymateb

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd y wefan cymharu prisiau Uswitch na fydd cwsmeriaid yn teimlo gwir faint y gostyngiad.

Dywedodd llefarydd: “Mae cwsmeriaid wedi aros yn amyneddgar ers dros chwe mis i weld gostyngiad arall mewn prisiau gan y ‘Chwech Mawr’ felly mae’r cam hwn, tra dylid ei groesawu, yn un y bu aros hir amdano.”

Ychwanegodd prif weithredwr Ofgem, Dermot Nolan: “Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir ac mae’n dda gweld peth symud ym mhrisiau ynni ar gyfer cwsmeriaid.

“Rydym wedi galw’n gyson ar i gyflenwyr esbonio pam nad yw prisiau manwerthu’n gostwng ac mae’r gostyngiad hwn mewn prisiau yn lled fynd i’r afael â’r her honno.”

Dywedodd prif weithredwr Cyngor ar Bopeth, Gillian Guy: “Mae’n galonogol fod E.ON yn torri eu biliau nwy ond fe fydd y gostyngiad o ran cynilon i bobol yn gymharol fach.

“Dylai’r cwmni hefyd helpu pobol drwy ostwng biliau trydan.”