Jeremy Corbyn
Yn ôl dadansoddiad diweddar o bolau piniwn, nid yw’r Blaid Lafur wedi llwyddo i ennill yr un ohonyn nhw ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd y blaid.
Dyma berfformiad gwaetha’r Blaid Lafur mewn polau piniwn mewn cyfnod yn dilyn etholiad ers yr Ail Ryfel Byd.
Ar hyn o bryd, mae’r blaid yn llusgo wyth pwynt ar gyfartaledd y tu ôl i’r Ceidwadwyr.
Yn ystod y senedd ddiwethaf, roedd y blaid Lafur yn arwain y blaen mewn polau piniwn ar gyfartaledd o bum pwynt o flaen y Ceidwadwyr.
Bwlch o wyth pwynt
Y tro diwethaf i’r blaid Lafur lusgo tu ôl i’r Ceidwadwyr mewn polau piniwn oedd ar ôl colli’r etholiad yn 1988, ond nid oes cofnodion o fwlch cymaint ag wyth pwynt ers diwedd y 1940au.
Yn ogystal, nid yw’r blaid Lafur wedi llwyddo i ddod yn gyntaf mewn unrhyw bôl piniwn ers i’r Ceidwadwyr ennill yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai’r llynedd.
Nid oes bwlch o wyth pwynt wedi datblygu mor gyflym â hyn yn hanes y blaid, ac mae’n groes i sut mae Llafur wedi llwyddo i adennill y blaen mewn polau piniwn yn dilyn colli etholiadau yn y gorffennol.
Yn 1992, roedd y blaid wedi goddiweddi’r Ceidwadwyr o fewn pum mis o golli’r etholiad. Yn 2010 roedden nhw wedi sicrhau hynny ymhen saith mis, a dim ond mis gymrodd hi i adennill y blaen ar ôl colli etholiad 1979.