Mae bachgen 16 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, wedi iddo ef a bachgen arall yn ei arddegau gael eu trywanu gan ddynion arfog ar gefn beiciau moped.

Mae heddlu Scotland Yard wedi cadarnhau i’r ddau gael eu trywanu yn rhannau uchaf eu cyrff yn Streatham, de Llundain, ddydd Mercher, Rhagfyr 30.

Mae’r ail fachgen, 17 oed, wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac wedi cael dychwelyd adref.

“Mae ditectifs yn credu i’r dioddefwyr gael eu trywanu wedi i ddau foped ddod atyn nhw,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.

“Roedd dau ar gefn bob beic, a’r gred ydi mai’r sawl oedd ddim yn llywio wnaeth drywanu’r bechgyn. Rydan ni’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn chwilio am dystion.”