Mae Heddlu Essex wedi lawnsio ymchwiliad llofruddiaeth, wedi i wraig yn ei 80au gael ei saethu’n farw mewn cartre’ gofal.

Roedd y ddynes wedi marw yng nghartre’ Delamer House yn Walton-on-the-Naze, pan gyrhaeddodd yr heddlu y fan.

Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio.