Fe fydd un o bob pedwar o bobl ddigartref yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain eleni, yn ôl un elusen ddigartrefedd.

Dywedodd elusen Crisis eu bod yn credu na fydd mwy na dau draean o bobl ddigartref yn treulio’r ŵyl gyda theulu na ffrindiau, ac y bydd miloedd yn parhau ar y strydoedd.

Bydd gan Crisis ganolfannau Nadolig ar agor nes diwedd y mis er mwyn darparu llety, bwyd a chwmni i’r rheiny sydd yn canfod eu hunain yn ar eu pen eu hunain, ac mae disgwyl i ryw 4,000 o bobl ymweld â’r canolfannau.

Perthnasau rhywiol anaddas

Dywedodd yr elusen bod un o bob pedwar o’r bobl ddigartref yn eu harolwg nhw wedi dechrau perthynas rywiol doedden nhw ddim yn hapus ag e er mwyn cael to dros eu pennau.

Roedd tri chwarter y bobl yn teimlo cywilydd eu bod yn ddigartref, tra bod 44% yn teimlo nad oedden nhw’n haeddu cymorth.

“Dylai’r Nadolig fod yn amser ar gyfer teulu a ffrindiau, cynhesrwydd a dathlu,” meddai prif weithredwr Crisis, Jon Sparkes.

“Ond i bobl ddigartref mae’n gallu bod yn un o gyfnodau anoddaf y flwyddyn – profiad oer, unig sydd yn cael ei ddioddef yn hytrach na’i fwynhau.

“Dyna beth sy’n gwneud ein gwaith dros y Nadolig mor bwysig.”