Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hyd at 60mya yng Nghymru dros nos
Mae disgwyl i Storm Eva daro rhannau o’r DU yn y cyfnod hyd at ddydd Nadolig gyda gwyntoedd o 70mya.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybuddion am ragor o lifogydd ar gyfer rhannau helaeth  o ogledd orllewin a gogledd ddwyrain Lloegr ac mae pryderon am yr effaith ar drafnidiaeth a chysylltiadau cyfathrebu.

Yng Nghymru mae pedwar rhybudd am lifogydd mewn grym yn Nyffryn Conwy, Dinbych y Pysgod, Dyffryn Dyfi a Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i Ddolydd Trefalun. Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hyd at 60mya yng Nghymru dros nos hyd at Noswyl Nadolig.

Trenau

Mae gwasanaeth Trenau Arriva Cymru rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi dod i stop i’r ddau gyfeiriad oherwydd llifogydd. Fe fydd gwasanaethau bws yn cael eu darparu yn lle ac mae disgwyl i’r trafferthion barhau tan hanner dydd heddiw.

Mae gwasanaeth bws yn lle trenau hefyd rhwng gorsafoedd y Drenewydd a Machynlleth bore ma oherwydd lefelau dwr uchel.

Fe fu oedi ar wasanaethau eraill yng Nghymru gan gynnwys y gwasanaeth o Gaerdydd Canolog i Fanceinion, ac nid oedd gwasanaeth 5.30yb rhwng Aberystwyth a Birmingham International yn gallu stopio mewn nifer o orsafoedd am fod dŵr ar y rheilffordd.

Cumbria 

Yn y cyfamser mae pobl yn Cumbria yn cyfri’r gost yn dilyn rhagor o law trwm a llifogydd ddoe. Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wyth digwyddiad yn sgil y llifogydd ddydd Mawrth, gan achub nifer o drigolion, gan gynnwys dynes 70 oed.

Roedd Afon Eden wedi gorlifo’i glannau yn Appleby am yr ail waith y mis hwn, gyda’r prif ffyrdd dan ddŵr.

Dyma’r ail waith i Cumbria wynebu llifogydd yn sgil y difrod a achoswyd gan Storm Desmond yn gynharach y mis hwn.

Appleby, Carlisle, Kendal a Keswick sydd wedi cael eu heffeithio waethaf.

Serch y gwynt a’r glaw mae’r tywydd yn parhau’n annhymhorol o gynnes gyda’r tymheredd wedi cyrraedd 16.1C (61F) yn Writtle yn Essex ddoe.

Y darogan yw y bydd dydd Nadolig yn wlyb a gwyntog.