Tŷ’r Arglwyddi
Gallai Prif Weinidog y DU wynebu brwydr arall gydag aelodau Tŷ’r Arglwyddi wrth i’r Ceidwadwyr lunio cynlluniau i gyfyngu ar eu grymoedd i atal deddfwriaeth.

Fe ofynnodd  David Cameron i un o gymheiriaid ei blaid, yr Arglwydd Strathclyde, lunio adroddiad ar bwerau Tŷ’r Arglwyddi.

Ac mae disgwyl i’r adolygiad hwnnw argymell y dylai’r Arglwyddi golli ei bŵer i roi feto ar fesurau newydd.

Daw’r argymhelliad ar ôl i Arglwyddi Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol gynddeiriogi gweinidogion drwy bleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Canghellor, George Osborne i dorri credydau treth i deuluoedd sydd ar gyflogau isel, gan ei orfodi i ail-ystyried.