David Cameron
Mae David Cameron yn wynebu gwrthwynebiad cryf heddiw ynglŷn â’i gynlluniau i ddiwygio perthynas Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Canghellor yr Almaen Angela Merkel wedi rhybuddio na fydd hi’n caniatáu newidiadau a fydd yn effeithio mewnfudwyr ac nad yw hi’n barod i ildio i holl ofynion David Cameron.
Mae’r Prif Weinidog dan bwysau i sicrhau consesiynau sylweddol i Brydain wrth iddo deithio i Frwsel ar gyfer uwch-gynhadledd dyngedfennol.
Yn ôl swyddogion, fe fydd yn gwneud apêl “uniongyrchol” i’r 27 arweinydd arall, gan fynnu bod yn rhaid iddyn nhw ymateb i bryderon y DU ynglŷn â’r diffyg rheolaeth dros fewnfudo, y farchnad sengl a’r diffyg cystadleuaeth.
Mae disgwyl i David Cameron awgrymu unwaith eto bod angen cyflwyno gwaharddiad ar fewnfudwyr sydd newydd ddod i’r wlad rhag gwneud cais am fudd-daliadau am y pedair blynedd gyntaf. Roedd yn un o addewidion y Ceidwadwyr yn eu maniffesto yn yr etholiad cyffredinol.
Ond mae nifer o wledydd Ewrop wedi awgrymu y byddan nhw’n gwrthod cynllun o’r fath.
Nid oes disgwyl i’r arweinwyr ddod i gytundeb terfynol yn ystod yr uwch-gynhadledd ond mae David Cameron a llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn gobeithio “paratoi’r ffordd” ar gyfer cytundeb yn y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror.
‘Diffyg uchelgais’
Mae nifer o Geidwadwyr y meinciau cefn wedi beirniadu’r trafodaethau gan ddweud eu bod yn dangos diffyg uchelgais, ac mai ychydig iawn o wahaniaeth byddai’n ei wneud hyd yn oed petai David Cameron yn cyrraedd ei nod.
Ac mae’r cyn-Brif Weinidog John Major hefyd wedi rhybuddio yn erbyn gadael yr UE.
“Rwy’n amheus o lawer iawn o bolisïau’r Undeb Ewropeaidd. Ond fe fyddai ystyried gadael, ar adeg pan mae’r byd i gyd yn dod at ei gilydd, yn ymddangos i mi i fod yn beryglus iawn ac yn erbyn ein buddiannau tymor hir,” meddai.
Bu arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, sydd hefyd ym Mrwsel ar gyfer cyfarfod o Blaid y Sosialwyr Ewropeaidd (PES), hefyd yn feirniadol o David Cameron. Mae wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o “geisio gorfodi arweinwyr Ewropeaidd i dderbyn diwygiadau gwallus a ffug, na fydd yn ateb gwir broblemau’r UE, ac wedi methu.”