Mae’r ymchwiliad hirhoedlog i hacio ffonau symudol wedi dod i ben, wedi i erlynwyr ddatgan na fydd mwy o gyhuddiadau’n cael eu dwyn.

Mae cyn-olygydd y Daily Mirror, Piers Morgan, a gafodd ei holi gan yr heddlu fel rhan o’r ymchwiliad, wedi dweud ar ei gyfri’ Twitter y bydd yn “meddwi’n rhacs” ar ol clywed na fydd yn wynebu gweithredu pellach gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Mae’r CPS wedi dod i’r casgliad fod “dim digon o dystiolaeth i ddwyn achosion llwyddiannus” mewn perthynas a chyfrifoldeb corfforol News Group Newspapers, y cwmni oedd yn cyhoeddi papur News of the World, am hacio ffonau symudol.

Fe ddaethpwyd i’r un casgliad yn achos y 10 newyddiadurwr a fu’n gweithio i’r Mirror Group Newspapers.

“Mae ymchwiliad yr heddlu i’r achos o hacio ffonau symudol, wedi dod i ben,” meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.