Mae ’na ddarogan y bydd prisiau petrol yn gostwng i £1 y litr erbyn y Nadolig.

Yn ôl y RAC fe allai prisiau olew is arwain at ostyngiad o 3c ym mhris petrol o 5c ar gyfer disel.

Fe fyddai hyn yn golygu bod prisiau ar gyfartaledd yn 103c ar gyfer petrol a 104c ar gyfer disel.

Ond mae arbenigwyr yn credu y gallai’r prisiau fod yn is na hynny mewn rhai llefydd.