Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i’r afael â ‘gwendidau’ mewn strategaethau i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg, yn ôl un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn archwilio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gan awdurdodau lleol i roi hwb i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Yn ôl y pwyllgor, mae nifer y plant sy’n dysgu Cymraeg yn gostwng mewn ardaloedd sydd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae ardaloedd eraill, fel Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Ynys Môn, wedi gweld cynnydd yn y ffigurau sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Yn genedlaethol mae Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef ei bod wedi methu ei thargedau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer 2015, ac yn ôl y pwyllgor, mae hyn yn debygol o ddigwydd unwaith eto yn 2020.

Yn ei adroddiad, mae’r pwyllgor yn nodi mai rhan o’r broblem yw’r ‘diffyg atebolrwydd a chydweithio’ rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

 

Galw ar y Llywodraeth i ymyrryd

Mae’r pwyllgor bellach wedi cyhoeddi 17 o argymhellion i’r Llywodraeth ar sut i gyrraedd ei thargedau addysg Gymraeg.

Mae’r rhain yn cynnwys annog Llywodraeth Cymru i fod yn gliriach gydag awdurdodau lleol dros hyrwyddo twf addysg cyfrwng Cymraeg a’r Gweinidog i ddefnyddio ei bwerau i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni eu Cynlluniau Strategol.

“Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’n llawn bwriadau Llywodraeth Cymru y tu ôl i’w strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg,” meddai David Rees AC, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Plant,  Pobl Ifanc ac Addysg.

“Ond rydym yn teimlo bod gwendidau sylweddol rhwng y strategaeth ar lefel genedlaethol a’r cynlluniau i gyflawni ar lawr gwlad.

“Mae’r ffaith bod targedau yn cael eu methu, a bod niferoedd yn gostwng mewn ardaloedd lle y byddech efallai yn disgwyl eu gweld yn cynyddu, yn fater sy’n peri pryder.”

Plaid Cymru – ‘angen arweiniad cryf’

Dywedodd Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru: “Cyhoeddwyd y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg dan Lywodraeth Cymru’n Un ac mae’n bryder mawr i Blaid Cymru nad yw’r targedau sydd ynddo yn debygol o gael eu cyrraedd.

“Mae angen arweiniad cryf gan y Llywodraeth nesaf i sicrhau bod y targedau ar gyfer 2020 yn cael eu cyrraedd.

“Nod Plaid Cymru, yn y tymor hir, yw sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod sylfaen a bod symudiad tuag at y Gymraeg fel cyfrwng yn hytrach na phwnc gyda phob disgybl yn derbyn rhan o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.”

‘Croesawu argymhellion’

 

Mae Comisiynydd y Gymraeg  wedi croesawu  argymhellion y pwyllgor yn ei adroddiad gan ddweud ei fod  yn adleisio ei galwadau am welliannau i’r gyfundrefn addysg Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws:  “Fe ddangosodd canlyniadau Arolwg Defnydd Iaith a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng y Comisiynydd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar mai’r gyfundrefn addysg yw prif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg heddiw.

“Mae’n hollbwysig, felly, bod unrhyw ddiffygion yn y cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn cael eu datrys fel bod ein hysgolion yn gallu cynhyrchu siaradwyr Cymraeg hyderus ym mhob cwr o Gymru.

“Yn y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gyflwynais i a’m swyddogion i’r pwyllgor, fe bwysleisiais mor bwysig yw hi i brif-ffrydio materion yn ymwneud ag addysg Gymraeg i bolisïau a strategaethau eraill Llywodraeth Cymru – materion fel polisïau cludiant a strategaethau anghenion dysgu ychwanegol er enghraifft.

“Fe wnaethom ddatgan hefyd y dylai’r Llywodraeth wneud mwy i egluro i awdurdodau lleol beth mae disgwyl iddynt ei wneud wrth hyrwyddo twf addysg Gymraeg.

“Rydym am weld y Gweinidog Addysg yn defnyddio ei bwerau statudol i ymyrryd pan fydd awdurdodau lleol yn methu â chyflawni cynlluniau strategol.”

Ymateb y Llywodraeth

“Bydd y Gweinidog Addysg yn ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor hwn ac yn ymateb iddo maes o law,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ers 2013, mae wedi bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo.

“Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod cynlluniau’n cyrraedd y safonau sy’n ddisgwyliedig.”