Mae gwefan Argos wedi bod yn cymryd hyd at ddeg eiliad i lwytho a heb fod ar gael 20% o’r amser, wrth i bobol heidio ati ar ddydd Gwener y gwario gwallgof.
Mae oedi o hyd at wyth eiliad hefyd ar wefannau Tesco a Debenhams.
Ni fu problemau tebyg gyda gwefannau Amazon, Currys, John Lewis a Next.
Bu dadansoddwyr technoleg gwybodaeth Capacitas yn cadw llygad ar y sefyllfa.