Darren Millar yw llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud eu bod nhw’n benderfynol y dylai gwasanaethau mamolaeth gael eu cynnal yn nhri phrif ysbyty gogledd Cymru.

Daw’r sylwadau wedi i adroddiadau’r BBC heddiw ddweud fod unedau mamolaeth yn y gogledd wedi cau’n ddirybudd ar 16 achlysur dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd argyfyngau.

Mae’r unedau wedi eu lleoli yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Yn ôl y BBC, roedd penaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud  fod prinder meddygon yn golygu bod bydwragedd dan bwysau mawr ar draws yr ardal.

Mae gwasanaethau mamolaeth yn y rhanbarth hefyd o dan fygythiad, gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fod i gyhoeddi canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun dadleuol i newid gwasanaethau mamolaeth ar 8 Rhagfyr.

Dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros iechyd, fod ei blaid yn gwrthwynebu israddio gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd

“Bydd cau unedau dros dro yn bryder i drigolion gogledd Cymru, yn enwedig ar adeg pan fo gwasanaethau mamolaeth dan fygythiad.

“Mae toriadau Llafur i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd  wedi arwain at ad-drefnu diangen ar hyd a lled Cymru a dyw’r gogledd ddim gwahanol, gydag adnoddau yn cael eu hymestyn i’r eithaf.

“Mae angen i benaethiaid y Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru i fynd i’r afael â phroblemau recriwtio a chadw staff a diogelu gwasanaethau ar y tri phrif safle.

“Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig am weld unrhyw israddio mewn gwasanaethau ysbyty ac rydym yn benderfynol y dylai gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddyg gael ei gynnal ym mhob un o’r tri phrif ysbyty yn y rhanbarth.”