Mae cannoedd o bobl wedi ymateb yn chwyrn wedi i ohebydd o Gymru drydaru am ddyn yr honir iddo aflonyddu arni hi a’i ffrind mewn tafarn.

Roedd Beth Fisher, gohebydd chwaraeon gyda ITV Cymru, yn sgwrsio gyda’i ffrind neithiwr mewn tafarn yn Marlow, Swydd Buckingham pan aeth i’r bar i archebu diodydd.

Fe drydarodd Beth, o Gaerdydd, sydd yn gyn-chwaraewr hoci rhyngwladol dros Gymru: “Cefais fy holi gan ddyn o ble’r oeddwn i’n dod.”

Wedyn, wrth i Beth sefyll wrth y bar, dywedodd fod y dieithryn wedi rhoi ei law ar ei chefn.

Mewn cyfres o drydaru, dywed Beth sydd hefyd yn llysgennad LHDT+ dros Chwaraeon Cymru: “Yna gofynnodd i’m ffrind gorau: “O ble ydych chi’n dod?” Atebodd hithau: “Cymru”, “Na, ble ydych chi mewn gwirionedd yn wreiddiol?”

Yn ei thrydar eglurodd Beth: “Mae treftadaeth fy ffrind gorau yn Indiaidd Cymreig rhag ofn eich bod yn meddwl fel fo.”

Meddai: “Dywedais wrtho’n syth na allwch ofyn hynny i rywun hynny. Ei ymateb? Cyffyrddodd â’i thrwyn a dywedodd: “Mae gennych lygaid braf”

Cyffwrdd

“Yna, cyffyrddodd â’i chlun mewn ffordd na ddylai fod wedi. Fe wnaethom chwerthin yn nerfus – ac aeth i ffwrdd.

“Aeth peth amser heibio – gofynnodd a allai ef a’i ffrind ymuno â’n bwrdd. Fe wnaethom ymateb yn gadarn: “Dim diolch, rydyn ni’n dal i fyny”.

“Gofynnodd yn gyson beth oedden ni’n ei olygu wrth “ddal i fyny”.

“Gofynnais iddo’n gadarn eto i’n gadael ar ein pen ein hunain a ddywedodd wrthyf am “Shut up.”

“Dywedodd: “Ydych chi’n gwybod pwy ydw i?” Yr oeddwn yn amlwg wedi ateb ‘Na.’

Plymwr

“Dywedodd mai ef oedd plymwr y frenhines. Atebais nad oeddwn yn poeni – a gofyn iddo ein gadael ar ein pen ein hunain.

“Gofynnais i staff y bar ymyrryd a wnaethant yn y pen draw ond dyma’r darn ar y diwedd a gofnodwyd gennyf.”

Fe ffilmiodd Beth y dyn yn cael ei hebrwng allan o’r dafarn gan aelod o’r staff yn y diwedd.

Roedd y dyn yn gwisgo siwmper gyda enw cwmni plymio lleol arno.

Ar y fideo a recordiwyd gan Beth mae o’n dweud: “Dydyn ni ddim eisiau chi yn Marlow . . . am eich bod chi’n axxxxxes. Ryda chi yn fxxxing gwastraff amser.”

Mae cannoedd o bobl wedi ymateb yn chwyrn i drydar a fideo Beth gan ofyn iddi gysylltu efo’r heddlu.