Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes yn dilyn ymosodiad yn Swydd Essex nos Iau.

Cafwyd hyd i Kelly Pearce, 36 o Canvey Island, wedi’i hanafu yn ei chartref toc cyn 5 o’r gloch nos Iau.

Cafodd hi ei chludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’w gwddf a bu farw rai oriau’n ddiweddarach.

Mae Anthony Ayres, 48, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae e wedi’i gadw yn y ddalfa.

Bydd Ayres yn ymddangos gerbron ynadon yn Southend ddydd Llun.