Jeremy Corbyn
Mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi amlygu’i wrthwynebiad i gynnal cyrchoedd awyr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria drwy rybuddio y gallai wneud y sefyllfa’n “llawer gwaeth.”

Mae Jeremy Corbyn wedi beirniadu Ffrainc wedi iddyn nhw gynnal cyrchoedd awyr dros gadarnle IS yn Raqqa, a hynny mewn ymateb i’r ymosodiadau brawychol ym Mharis nos Wener.

“Dw i ddim wedi fy argyhoeddi bod ymgyrch fomio yn mynd i ddatrys unrhyw beth, gallai wneud y sefyllfa’n llawer gwaeth,” meddai arweinydd y blaid Lafur.

 

 ‘Setliad gwleidyddol’

Daw ei sylwadau ymysg arwyddion y gallai nifer cynyddol o Aelodau Seneddol Llafur fod yn barod i gefnogi cyrchoedd awyr ar Syria yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis.

Mae hefyd wedi beirniadu’r toriadau i wasanaethau heddlu ym Mhrydain, a hynny mewn cyfnod “o fygythiad brawychol cynyddol.”

Fe ychwanegodd fod gan yr heddlu rôl “hollbwysig” mewn atal cynllwynion.

Awgrymodd fod angen sicrhau setliad gwleidyddol i’r rhyfel cartref yn Syria er mwyn delio â bygythiadau’r Wladwriaeth Islamaidd.

“Yn y tymor hir, mae angen setliad gwleidyddol ehangach gyda’r holl ranbarth, ac yn y Dwyrain Canol – fel arall ry’n ni’n mynd i weld mwy o hyn wrth i’r amser fynd yn ei flaen,” ychwanegodd.

“Yn y pendraw, mae’n rhaid i’r holl ryfeloedd ddiweddu gyda thrafodaeth a datrysiad gwleidyddol.”