Ni fydd twristiaid o’r Deyrnas Unedig yn gallu ymweld â’r Unol Daleithiau dros yr haf, gan fod y Tŷ Gwyn wedi cadarnhau eu bod nhw am gadw’r cyfyngiadau presennol ar deithio rhyngwladol.
Dydi hi ddim yn bosib i’r rhan fwyaf o deithwyr o Ewrop, gan gynnwys o’r Deyrnas Unedig, gael mynediad i’r UDA yn sgil ofnau am Covid-19.
Yn ôl adroddiadau gan yr Associated Press, bydd y polisi’n aros mewn lle oherwydd presenoldeb amrywiolion Covid yn Ewrop.
Fe wnaeth y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Afiechyd rybuddio Americanwyr rhag teithio i’r Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf, yn sgil cynnydd mewn achosion o Covid-19.
Er bod y rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop wedi llacio’r rheolau ar gyfer teithwyr o’r UDA sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn, mae’r wlad yn parhau ar restr oren y Deyrnas Unedig.
Deyrnas Unedig
Yn y cyfamser, mae adroddiadau fod gweinidogion y Deyrnas Unedig yn paratoi i lacio’r rheolau teithio o Ddydd Sul (1 Awst) ymlaen ar gyfer dinasyddion sy’n byw dramor ac yn dychwelyd.
Ni fydd rhaid i ddinasyddion sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn ac sy’n byw mewn gwlad sydd ar y rhestr oren hunanynysu wrth ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, yn ôl The Daily Telegraph.
Mae’r eithriad yn berthnasol i bobol sydd wedi cael eu brechu dan raglen y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ond mae’r papur newydd yn dweud fod cynlluniau i ymestyn hynny.
Mae’r papur yn adrodd hefyd fod disgwyl i weinidogion gytuno ar gytundeb ddwyochrog ar deithio heb gwarantîn gyda 33 o wledydd, a fyddai’n cynnwys Iwerddon, Sbaen, Portiwgal, Ffrainc a Groeg, yn ogystal â rhai pellach megis Barbados, Anguilla ac Ynysoedd y Caiman.
Yn ôl y sôn, gallai Ffrainc ddychwelyd i’r rhestr oren. Ar hyn o bryd, mae Ffrainc ar y rhestr ‘oren plus’ sy’n golygu fod rhaid i bobol sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn hunanynysu wrth ddychwelyd.
“Cydweithio”
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Brechlynnau Nadhim Zahawi y bydd pobol yn gallu siarad gyda’u meddyg teulu ynghylch eu statws brechu cyn mynd dramor.
“Y rheswm am y sgwrs gyda’r Meddyg Teulu yw gwneud yn siŵr fod pa bynnag frechlyn y maen nhw wedi’i chael wedi’i chymeradwyo yn y Deyrnas Unedig,” meddai Nadhim Zahawi.
“Yn y pendraw, bydd cydweithio rhwng Sefydliad Iechyd y Byd, ni, y rheolydd Ewropeaidd, rheolydd yr UDA, a rheolyddion eraill dros y byd.
“Gan ein bod ni’n gweithio’n sydyn, ar y funud dinasyddion a gwladolion y Deyrnas Unedig sydd wedi cael brechlynnau’r Deyrnas Unedig fydd yn gallu teithio i wledydd ar y rhestr oren, heblaw am Ffrainc, a dod yn ôl heb hunanynysu.”
Mae llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am eu rheolau eu hunain, ond mae’r rheolau ynghylch teithio dramor wedi bod yn debyg iawn i rai Lloegr.
Er hynny, mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn parhau i annog pobol i beidio mynd ar wyliau dramor eleni ac i fwynhau gwyliau yng Nghymru yn lle.