Mae’r person cyntaf i sefyll prawf o dan gyfreithiau newydd dadleuol Hong Kong wedi’i gael yn euog o frawychiaeth ac annog gwrthryfel.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn beirniadu Uchel Lys Hong Kong ar ôl i Tong Ying-kit, dyn 24 oed, fynd gerbron llys heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 27).

Cafodd ei gyhuddo o yrru ei feic modur at dorf o blismyn wrth iddo gludo baner yn dwyn y slogan “Rhyddid i Hong Kong, chwyldro ein hoes” ar Orffennaf 1 y llynedd, ddiwrnod yn unig ar ôl i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym yn dilyn misoedd o brotestiadau yn erbyn y llywodraeth yn 2019.

Mae pryderon y gallai’r achos osod cynsail ar gyfer achosion tebyg yn y dyfodol, gyda mwy na 100 o bobol wedi’u harestio’n unol â’r cyfreithiau newydd.

Fe wnaeth Tong Ying-kit bledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau ac i gyhuddiad arall o yrru’n beryglus ac mae’n wynebu uchafswm o oes o garchar ond mae disgwyl i’w gyfreithwyr bledio’i achos er mwyn cael dedfryd lai difrifol pan fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau (Gorffennaf 29).

Cefndir

Wrth ddarllen yr euogfarn, dywedodd y barnwr fod Tong yn euog o “weithredoedd brawychol gan achosi neu fwriadu achosi niwed difrifol i’r gymdeithas” at ddibenion gwleidyddol.

Dywedod ei fod e wedi bwriadu bod yn dreisgar er mwyn cythruddo’r llywodraeth ganolog a Llywodraeth Hong Kong yn ogystal â bygwth y cyhoedd.

A dywedodd fod cludo baner yn weithred o annog gwrthryfel.

Gyda’r erlynwyr yn hyderus eu bod nhw wedi dadlau eu hachos, fe benderfynon nhw roi’r gorau i geisio euogfarn am yrru’n beryglus.

Wnaeth Tong ddim siarad yn ystod y gwrandawiad wrth glywed yr euogfarn.

Doedd dim rheithgor yn yr achos a hynny am resymau’n ymwneud â diogelwch cenedlaethol a diogelwch unigolion.

Caiff barnwyr eu dewis gan Carrie Lam, arweinydd Hong Kong.

Mae Amnest Rhyngwladol wedi beirniadu’r euogfarn, gan ddweud mai dyma “ddechrau’r diwedd i ryddid barn yn Hong Kong”.

Ond mae Beijing yn gwrthod unrhyw feirniadaeth o’r drefn newydd, gan ddweud mai “adfer trefn” yn Hong Kong yw eu nod.