Mae’r Arlywydd Joe Biden wedi dweud y bydd ymgyrch filwrol yr Unol Daleithiau yn Irac yn dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl iddo drafod amserlen ar gyfer tynnu lluoedd yr Unol Daleithiau o’r wlad gyda Phrif Weinidog Irac Mustafa al-Kadhimi yn y Tŷ Gwyn heddiw (Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf).

“Erbyn diwedd y flwyddyn dy’n ni ddim am fod mewn ymgyrch filwrol,” meddai Joe Biden, gan ychwanegu y bydd lluoedd yr Unol Daleithiau yn parhau yn y wlad i roi hyfforddiant a chymorth i luoedd Irac.

“Mae ein brwydr ar y cyd yn erbyn Isis yn hanfodol ar gyfer sefydlogrwydd y rhanbarth ac fe fydd ein cydweithrediad gwrth-frawychiaeth yn parhau hyd yn oed wrth i ni symud at y cyfnod newydd yma ry’n ni’n son amdano,” meddai Joe Biden.

Mae tua 2,500 o filwyr yr Unol Daleithiau wedi bod yn Irac ers diwedd y llynedd ar ôl i’r arlywydd ar y pryd, Donald Trump orchymyn bod nifer y milwyr yn gostwng o 3,000 i 2,500.

Nid yw Joe Biden wedi dweud faint o filwyr fydd yn parhau yn Irac ar ôl i’r ymgyrch ddod i ben yn ffurfiol. Mae’n dilyn penderfyniad Joe Biden i dynnu milwyr yn gyfan gwbl o Afghanistan bron i 20 mlynedd ar ôl i George W Bush ddechrau rhyfel yno mewn ymateb i ymosodiadau 11 Medi yn 2001. Lai na dwy flynedd yn ddiweddarach fe ddechreuodd George Bush y rhyfel gydag Irac.

Mae Joe Biden wedi rhoi addewid i barhau gyda’r ymdrechion gwrth-frawychiaeth yn y Dwyrain Canol ond gan roi mwy o bwyslais ar Tsieina.