Dylai Llywodraeth Prydain fynnu eu bod nhw’n cael yr hawl i wrthod a gwyrdroi deddfau Ewrop wrth iddyn nhw drafod eu haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl Maer Llundain Boris Johnson.

Cafodd y mater ei grybwyll gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn ystod araith yr wythnos diwethaf.

Mae disgwyl i refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd gael ei gynnal cyn diwedd 2017.

Awgrymodd Boris Johnson wrth bapur newydd y Sunday Times y byddai’r fath hawl i wrthod deddfau’n cael ei ddefnyddio’n “gynnil iawn, iawn”.

“Fe allech chi addasu’r ddeddf sy’n dweud bod gan holl gyfarwyddiaethau, rheoliadau a goblygiadau eraill oruchafiaeth dros ddeddfwriaeth Prydain i ddweud bod ganddi oruchafiaeth oni bai ei bod yn cael ei gwyrdroi yn benodol gan y senedd.

“Y peth mawr sy’n ei gwneud yn ddeniadol yw nad oes angen negydu. Does dim angen caniatâd Angela Merkel arnoch o gwbl.”

Cyfaddefodd y byddai’r fath drefn yn “gwylltio” swyddogion ym Mrwsel.