Warren Mitchell (Llun: Wikipedia)
Bu farw’r actor, Warren Mitchell, yn 89 oed. Roedd fwyaf adnabyddus am bortreadu’r cymeriad Alf Garnett yn y gyfres deledu, Till Death Us Do Part.

Meddai datganiad gan y teulu: “Gyda thristwch, gallwn gadarnhau fod Warren Mitchell wedi marw yn ystod oriau mân dydd Sadwrn, Tachwedd 14, gyda’i deulu o’i gwmpas.

“Roedd wedi bod yn cwyno ers peth amser, ond roedd yn gwneud i bawb o’i gwmpas chwerthin tan y diwedd un.”