Mae disgwyl i ragor o drigolion gwledydd Prydain ddychwelyd o’r Aifft heddiw wedi i nifer o deithiau awyr ychwanegol gael eu trefnu.
Bydd wyth o awyrennau yn gadael Sharm el-Sheikh heddiw am Gatwick, Luton Birmingham a Manceinion.
EasyJet a Thomson sy’n cynnig y teithiau ychwanegol.
Cyrhaeddodd 2,000 o bobol wledydd Prydain ddydd Sadwrn, a 1,500 ddydd Gwener.
Ond mae miloedd yn dal yn yr Aifft o ganlyniad i fesurau diogelwch ychwanegol sydd wedi’u cyflwyno.