Fe allai Prydeinwyr sydd ar wyliau yn Sharm el-Sheikh yn yr Aifft ddechrau dychwelyd adref yfory, meddai’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond wedi dweud.

Ychwanegodd y gallai’r broses gymryd hyd at 10 diwrnod ac y bydd rhai mesurau brys yn aros yn eu lle wrth i’r broses fynd rhagddi,  meddai wrth Sky News.

Cafodd hediadau o Sharm el-Sheikh i’r DU eu hatal neithiwr yn dilyn pryderon am ddiogelwch yn y maes awyr yno.

Mae cwmni awyrennau Lufthansa o’r Almaen hefyd wedi cyhoeddi prynhawn ma na fydd eu hawyrennau gyda chwmnïau Edelweiss a Eurowings yn hedfan i Sharm el-Sheikh am y tro.

‘Cydymdeimlad’

Dywedodd David Cameron ar ôl cyfarfod o Cobra,  pwyllgor brys Llywodraeth y DU y bore ma, ei bod yn “debygol iawn” mai bom a achosodd i awyren o Rwsia daro’r ddaear ym Mhenrhyn Sinai yn yr Aifft dros y penwythnos, gan ladd 224 o bobl.

Meddai’r Prif Weinidog fod ganddo “bob cydymdeimlad” gyda dicter Cairo dros yr effaith y gall y trychineb ei gael ar ei diwydiant twristiaeth ond ei fod am “roi diogelwch pobl Prydain yn gyntaf”.

Daeth ei sylwadau wrth i Arlywydd yr Aifft Abdel Fatah al-Sisi gyrraedd y DU ar gyfer trafodaethau gyda David Cameron yn Downing Street heddiw.

Mae gweinidog tramor yr Aifft, Sameh Shoukry, wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad “diangen” i atal hediadau o Sharm el-Sheikh gan rybuddio y bydd yn niweidio’r diwydiant twristiaeth yno.

Credir bod 20,000 o Brydeinwyr yn Sharm el-Sheikh ar hyn o bryd. Dywed y Swyddfa Dramor bod y cyngor newydd ynglŷn â theithio yn ymwneud a’r maes awyr yn unig a bod y ganolfan wyliau yn cael ei hystyried yn ddiogel.