Mae’r holl deithiau awyren o Sharm el-Sheikh yn yr Aifft i’r DU heno wedi cael eu gohirio am y tro.

Mae’n dilyn pryderon mai bom a achosodd i awyren o Rwsia daro’r ddaear ym Mhenrhyn Sinai yn yr Aifft dros y penwythnos, meddai Downing Street.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 y byddai’n caniatáu i dîm o arbenigwyr o’r DU i asesu trefniadau diogelwch yn y maes awyr yn Sharm el-Sheikh.

“Tra bod yr ymchwiliad yn parhau ni allwn ddweud yn bendant beth achosodd y ddamwain awyren o Rwsia. Ond wrth i ragor o wybodaeth ddod i law rydym yn bryderus y gallai dyfais ffrwydrol fod wedi achosi i’r awyren daro’r ddaear.

“Yn sgil hyn, fel mesur rhagofal, rydym wedi penderfynu y dylid gohirio’r teithiau awyren oedd i fod i adael Sharm i’r DU heno.”

Ychwanegodd y llefarydd y bydd staff consylaidd ychwanegol yn cael eu hanfon i’r maes awyr a fydd yn cydweithio gyda’r cwmnïau awyrennau er mwyn rhoi cymorth i deithwyr.

Dylai pobl eraill sydd ar wyliau yn Sharm ar hyn o bryd neu sydd wedi trefnu gwyliau yno yn ystod y dyddiau nesaf, gysylltu â’u cwmni awyrennau neu gwmni deithio, meddai.

Roedd yr awyren Metrojet Airbus A321-200 wedi taro’r ddaear yn Sinai 23 munud ar ôl gadael Sharm el-Sheikh ar ei ffordd i St Petersburg, gan ladd pob un o’r 224 o deithwyr arni, y rhan fwyaf ohonyn nhw o Rwsia.

Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys Cobra heno er mwyn adolygu’r sefyllfa.