Stormont
Fe fydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn penderfynu ddydd Llun a fyddan nhw’n cyfreithloni priodasau o’r un rhyw.

Dyma’r pumed tro iddyn nhw bleidleisio ar y mater, ar ôl gwrthod yr holl gynigion blaenorol.

Cafodd priodasau o’r un rhyw eu cyfreithloni yng Ngweriniaeth Iwerddon yr wythnos diwethaf, sy’n golygu mai Gogledd Iwerddon yw’r unig ran o’r DU ac Iwerddon lle nad yw’n gyfreithlon.

Ond mae disgwyl i’r pumed cynnig fethu unwaith eto yn dilyn gwrthwynebiad gan yr Unoliaethwyr Democrataidd, sy’n barod i gyflwyno deiseb yn erbyn y ddeddfwriaeth newydd.

O ganlyniad i’r ddeiseb, dim ond os bydd mwyafrif o unoliaethwyr a mwyafrif o genedlaetholwyr yn cefnogi’r bil y caiff ddod yn gyfraith gwlad.

Mae disgwyl i gyplau o’r un rhyw fynychu dadl yn Stormont ddydd Llun.

Mae nifer o gyplau o’r un rhyw eisoes wedi mynd â’u hachos i’r Uchel Lys yn Belfast yn y gobaith o sicrhau adolygiad barnwrol.