Mae’r heddlu’n parhau i holi dyn 20 oed o Swydd Stafford ar amheuaeth o ymosod ar systemau’r cwmni cyfathrebu TalkTalk.
Bellach, mae tri o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r digwyddiad.
Maen nhw wedi’u hamau o ddwyn gwybodaeth breifat am gwsmeriaid y cwmni.
Cafodd llanc 16 oed ei arestio yng ngorllewin Llundain ddydd Iau, ac mae e bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd llanc 15 oed o Sir Antrim yng Ngogledd Iwerddon ei arestio ddydd Llun a’i ryddhau ar fechnïaeth.
Dyma’r trydydd tro eleni y mae hacwyr wedi ymosod ar TalkTalk.
Cafodd yr hacwyr fynediad i 21,000 o gyfrifon banc, 1.2 miliwn o gyfeiriadau e-bost, enwau a rhifau ffôn a manylion 28,000 o gardiau banc.
Yn y cyfamser, mae Vodafone wedi dweud bod 2,000 o gwsmeriaid yn agored i dwyll wedi i hacwyr gael mynediad i’w manylion personol.
Mae ymchwiliad ar y gweill.