Mae dwsinau o bobl wedi cael dirwy o ragor na £2,000 i gyd am bigo madarch gwyllt yn anghyfreithlon.

Dywedodd Corfforaeth Dinas Llundain (CLC) eu bod wedi rhoi hysbysiadau cosb penodedig o £80 i 27 o bobl a oedd wedi cael eu dal yn smyglo’r ffwngi o Goedwig Epping yn Swydd Essex, dros y 12 mis diwethaf.

Cafodd rhai eu dal yn gyda rhagor na 5kg o fadarch a chafodd bag oedd yn pwyso 49kg ei atafaelu o’r gyrchfan.

Dywed Ceidwaid Coedwig Epping eu bod hefyd yn aml yn rhoi rhybuddion llafar i gasglwyr.

Diogelir ffwng o dan is-ddeddfau Coedwig Epping ac mae eu tynnu ar raddfa fawr yn niweidio ei ecoleg, meddai’r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol.

Mae’r coetir hynafol wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae llawer o’i rywogaethau madarch gwyllt o bwysigrwydd cenedlaethol.

Marchnadoedd

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol fod rhai mathau o ffyngau yn cael eu gwerthu i fwytai a marchnadoedd ond bod gwneud hynny’n cael gwared ar ffynonellau bwyd ar gyfer rhywogaethau pryfed prin ac anifeiliaid eraill fel ceirw.

Mae’r ffyngau’n bwysig i iechyd coed y safle, y mae rhai ohonynt hyd at 1,000 o flynyddoedd oed, gan fod rhywogaethau penodol yn diogelu eu gwreiddiau, ac yn rhoi dŵr a mwynau hanfodol iddynt.

Dywedodd Graeme Doshi-Smith, Cadeirydd Pwyllgor Coedwig Epping: “Mae ffyngau’n chwarae rhan eithriadol o bwysig yn y cydbwysedd bregus o fioamrywiaeth sy’n gwneud Coedwig Eppping yn arbennig.

“Mae cymeryd cymaint o fadarch o goetir hynafol yn niweidio ei fywyd gwyllt ac yn bygwth rhywogaethau prin.

“Ac mae llawer o amrywogaethau’n beryglus – a gallanf fod yn angheuol i’w bwyta gan bobl.

“Rydym yn croesawu’r miliynau o bobl sy’n dod i fwynhau’r safle gwarchodedig hwn.

“Ond rwy’n annog ymwelwyr i adael y ffyngau y maen nhw’n dod ar eu traws – ac i beidio eu cyffwrdd.”