Mae ail fachgen yn ei arddegau wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad seibr ar gwmni TalkTalk.

Mae’r bachgen 16 oed, o Feltham yng ngorllewin Llundain, wedi’i ddwyn i’r ddalfan ar amheuaeth o gamddefnyddio cyfrifiadur. Fe gafodd ei arestio yn dilyn cyrch ar ei gartre’ ddoe, a’i ryddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd bachgen 15 o County Antrim yng Ngogledd Iwerddon ei arestio ddydd Llun yr wythnos hon ar amheuaeth o ddwyn data. Mae o wedi ryddhau ar fechnïaeth tan ddyddiad penodol ym mis Tachwedd.

Mae’r ymchwiliad dan ofal uned troseddau seibr Heddlu’r Met yn Llundain, ynghyd â’r Asiantaeth Droseddau Genedlaethol.