George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi mynnu y bydd yn bwrw mlaen i ddiwygio credydau treth, er i’w gynlluniau gael eu trechu yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr.

Bu’r Canghellor yn wynebu Aelodau Seneddol am y tro cyntaf bore ma ar ôl i Arglwyddi bleidleisio dros ddau gynnig i ohirio’r toriadau o £4.4 biliwn mewn credydau treth.

Yn ystod cwestiynau’r Trysorlys yn Nhŷ’r Cyffredin, fe gadarnhaodd George Osborne y byddai’n cyhoeddi mesurau i leddfu effaith y toriadau yn Natganiad yr Hydref fis nesaf.

Ond dywedodd bod pleidlais yr Arglwyddi wedi mynd yn groes i gytundeb sy’n golygu na allen nhw atal penderfyniadau ariannol sy’n cael eu gwneud yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ychwanegodd bod y mater wedi codi cwestiynau am y cyfansoddiad ac mae disgwyl i David Cameron gyhoeddi manylion “adolygiad brys” o’r berthynas gyfansoddiadol rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.