Mae economi Prydain wedi tyfu’n arafach na’r disgwyl yn y tri mis diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd dadansoddwyr wedi darogan y byddai’r economi yn arafu ychydig o 0.7% yn ail chwarter y flwyddyn i 0.6% yn y tri mis hyd at fis Medi eleni – ond 0.5% yw’r ffigwr sydd wedi’i chyhoeddi heddiw.

Gwelwyd cwymp o 2.2% yn allbynnau’r diwydiant adeiladu, ac roedd y diwydiant cynhyrchu yn un o’r rhai i weld y twf gwanaf, ond fe gynyddodd allbwn y diwydiant mwyngloddio o 2.4%.

Fe allai’r ffigyrau diweddaraf gynyddu’r pwysau ar Fanc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog, ond mynnodd y Canghellor George Osborne bod yr 11eg chwarter yn olynol o dwf yn yr economi yn rheswm i fod yn falch.

“Mae’n newyddion da fod Prydain yn parhau i wneud yn well nag economïau gwledydd Gorllewinol eraill,” meddai Osborne.

“Ond mae peryglon byd eang amlwg ac mae angen i ni barhau i wneud tipyn er mwyn adfer ein heconomi.”