Mae staff y gwasanaethau brys wedi galw am fesurau llymach dros reolaeth alcohol, wrth i fwy na thri chwarter o swyddogion yr heddlu a mwy na hanner o barafeddygon gael eu hanafu wrth ddelio â digwyddiadau yn ymwneud ag alcohol.

Fe wnaeth Sefydliad Ymchwil Alcohol (IAS) gynnal arolwg o 5,000 o weithwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gasglu fod 76% o swyddogion yr heddlu a 50% o weithwyr ambiwlans wedi’u hanafu wrth ddelio â digwyddiadau cysylltiedig ag alcohol.

Mae swyddogion yr heddlu yn rhoi’r bai ar y drwydded 24 awr a gyflwynwyd yn 2003 am y trais sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Maen nhw’n galw ar weinidogion i osod mwy o reolau dros oriau agor clybiau a thafarndai, ac am gyflwyno pris isafswm ar alcohol.

Pris isafswm alcohol

Fe ddywedodd un swyddog fod Deddf 2003 wedi “newid yr heddlu am byth.”

Ychwanegodd bod delio â throseddau cysylltiedig ag alcohol yn golygu na all yr heddlu dreulio amser yn gwarchod ardaloedd preswyl na dal lladron.

Mae’r adroddiad yn galw am ddefnydd “mwy pendant” o bwerau trwyddedau gan awdurdodau lleol – a chyflwyno pris isafswm alcohol.

“Mae ein hadroddiad yn dangos faint yr amser anghymesur y mae alcohol yn ei gymryd o’r gwasanaethau brys, ac mae’n costio biliynau i’r trethdalwyr bob blwyddyn,” meddai Katherine Brown cyfarwyddwr IAS.

Cost ar y wlad

Mae’r adroddiad hefyd yn honni fod gweithwyr y gwasanaethau brys wedi’u poenydio neu eu cam-drin yn rhywiol wrth ddelio â phobol feddw.

Fe ddywedodd Mike Penning, Gweinidog y Swyddfa Gartref fod y Llywodraeth yn ceisio datblygu’r Strategaeth Alcohol a sefydlwyd yn 2012.

“Mae niwed cysylltiedig ag alcohol yn costio £21 biliwn y flwyddyn, ac mae £11 biliwn yn droseddau sy’n ymuned ag alcohol,” meddai Mike Penning.

“Dyna pam mae’r Llywodraeth yn ceisio delio ag alcohol fel prif achos y drosedd, gan gefnogi pobol i aros yn iach, a gweithio â phartneriaid ar lefel lleol a chenedlaethol i leihau effaith camddefnydd alcohol ar y gwasanaethau brys.”

Fe ychwanegodd fod cyflwyno pris isafswm alcohol o dan ystyriaeth.