Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared a 1,200 o swyddi.

Fe fydd tua 900 o swyddi yn diflannu o ffatri’r cwmni yn Scunthorpe a 270 yn yr Alban – gyda nifer bychan o swyddi eraill yn mynd mewn safleoedd eraill.

Mae’r  cwmni wedi rhoi’r bai ar fewnforion o ddur rhad o China, cryfder y bunt a phrisiau uchel am drydan.

Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad SSI eu bod yn cau eu ffatri yn Redcar lle bydd 2,200 o swyddi’n diflannu, ac fe gyhoeddwyd ddoe bod cwmni Caparo wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Dywedodd prif weithredwr Tata Karl Koehler: “Rwyf yn sylweddoli pa mor dorcalonnus yw’r newyddion hyn i bawb sydd wedi’u heffeithio. Rydym wedi edrych ar yr holl opsiynau eraill cyn cynnig y newidiadau hyn.

“Fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio a chynrychiolwyr yr undebau.”

Ychwanegodd bod y diwydiant yn wynebu trafferthion mawr yn wyneb “amodau heriol iawn yn y farchnad.”

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd yn trafod y broblem o allforion dur rhad o China gyda’r Arlywydd Xi Jinping, sydd ar ymweliad a’r DU ar hyn o bryd.