Mae’r diwydiant dur yn disgwyl ergyd arall bore ma wrth i adroddiadau awgrymu y bydd Tata yn cyhoeddi y byddan nhw’n cael gwared a 1,200 o swyddi yn Scunthorpe a’r Alban.

Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad SSI eu bod yn cau eu ffatri yn Redcar lle bydd 2,200 o swyddi’n diflannu, ac fe gyhoeddwyd ddoe bod cwmni Caparo wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae disgwyl i Tata wneud cyhoeddiad am ddyfodol eu safleoedd yn Dalzell yn  Motherwell, Clydebridge yn Cambuslang a Scunthorpe. Mae’n debyg y bydd 400 o swyddi’n cael eu heffeithio yn yr Alban lle mae disgwyl i’r diwydiant cynhyrchu dur ddod i ben os yw’r toriadau yno yn parhau.

Er nad yw Tata wedi cyhoeddi eu cynlluniau hyd yn hyn, mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud y bydd yn sefydlu tasglu i geisio sicrhau dyfodol y ffatrïoedd a’r diwydiant.

Dywed undeb Unite bod 1,700 o swyddi yn y fantol yn Caparo sydd â safleoedd ar draws y DU ond yn bennaf yng ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Ac mae’r TUC wedi rhybuddio wedi bod tua 5,200 o weithwyr dur yn y DU yn wynebu diswyddiadau.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd yn trafod y broblem o allforion dur rhad o China gyda’r Arlywydd Xi Jinping, sydd ar ymweliad a’r DU ar hyn o bryd.