Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen Mesur Cymru “radical a chryf”, gan rybuddio y byddai deddfwriaeth annigonol yn dibrisio’r broses ddatganoli.

Dywedodd Liz Saville Roberts  AS, sy’n aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, fod Plaid Cymru am weld mesur drafft cryf a fyddai’n arwydd “o gam mawr ymlaen ar daith Cymru tuag at ddemocratiaeth aeddfed.”

Fe rybuddiodd fod datganoli “tameidiog” yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag cael yr offer mae ei angen i weithredu fel sefydliad atebol, a beirniadodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, am arllwys dŵr oer ar y syniad o sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

Ddoe, fe wrthododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru’r honiad y gall Mesur Cymru wanhau pwerau’r Cynulliad.

Roedd  Stephen Crabb hefyd wedi gwrthod galwadau gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i oedi’r broses o’i gyflwyno am ddeufis.

‘Grymuso’r Cynulliad’

Wrth siarad cyn cyhoeddi Mesur drafft Cymru heddiw, dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Gobaith Plaid Cymru yw y bydd Mesur Drafft Cymru yn ddarn cryf o ddeddfwriaeth fydd yn grymuso’r Cynulliad gyda phwerau dros feysydd pwysig sy’n effeithio bywydau pobl bob dydd.

“Ar heddlua, ynni, adnoddau naturiol, darlledu a chyfiawnder, rydym wedi mynnu erioed fod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn well pan yn agosach at y rhai maent yn eu heffeithio.

‘Awdurdodaeth gyfreithiol’

 

Roedd Liz Saville Roberts hefyd yn feirniadol o’r ffaith fod pleidiau San Steffan yn gwrthod rhoi’r grym i’r Cynulliad i sefydlu system gyfiawnder yng Nghymru.

“Tra bod Plaid Cymru wedi cefnogi’r cam hwn ers blynyddoedd, mae Llafur a’r Torïaid wedi anwybyddu galwadau gan nifer cynyddol o arbenigwyr a chyfreithwyr sy’n credu y byddai awdurdodaeth benodol i Gymru yn sicrhau gwell llywodraethiant.

“Mae Mesur Cymru yn gyfle euraidd i roi setliad cryf a theg i’n cenedl sy’n sicrhau cydraddoldeb i Gymru gyda chenhedloedd eraill y DU.

“Nid yw Cymru yn genedl eilradd ac nid yw ein pobl yn haeddu dim llai na chydraddoldeb. Os yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cytuno, rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio’r Mesur hwn i wireddu’r gred honno.”

‘Cymru gryfach’

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: “Mae Cymru wedi gwrthod y math o genedlaetholdeb a oedd yn bygwth rhannu’r Deyrnas Unedig y llynedd.

“Ond mae awydd cryf yng Nghymru am fwy o lais dros faterion Cymreig o fewn setliad datganoli cryfach. Bydd y Bil ddrafft yn cwrdd â’r ymrwymiadau a nodwyd yng Nghytundeb Dydd Gŵyl Dewi er mwyn  adeiladu Cymru gryfach o fewn DU gref.”

Bydd ymgynghoriad ar y mesur cyn i fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi fis Chwefror.