Mae heddlu’n apelio am dystion wedi i fachgen 14 oed gael ei ladd pan darodd y car yr oedd o’n teithio ynddo yn erbyn coeden.

Bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle yn Hodge Hill ger Birmingham toc wedi 11yh neithiwr (nos Wener).

Mae llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands wedu cadarnhau i’r bachgen dderbyn triniaeth cymorth cynta’ ac achub bywyd, ond iddo farw er hynny.