Mae dyn 24 oed wedi’i garcharu wedi iddo gael ei ddal â chocên yn ei feddiant yn ystod achos llys arall.

Roedd Waqas Khan, o Luton, ar brawf yn Llys y Goron Luton am gynllwynio i gyflenwi cocên a heroin fel rhan o grwp mwy, ond fe gafodd ei ryddhau.

Yn ystod yr achos llys, fe aeth â bag personol gydag o i mewn i’r llys – ac yn hwnnw y daethpwyd o hyd i “swm mawr” o’r cyffur dosbarth A.

Fe gafodd Waqas Khan ei garcharu am 21 mis, wedi iddi bledio’n euog o fod â’r cyffur yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi i eraill.