Mae Angela Merkel yn cefnogi Henriette Reker
Mae un o’r ymgeiswyr i fod yn Faer Cologne wedi cael ei hanafu mewn achos o drywanu yn y ddinas yng ngorllewin Yr Almaen.

Fe gafodd Henriette Reker ei hanafu wrth ymgyrchu heddiw. Dyw hi ddim yn glir eto pa mor ddifrifol ydi’r anaf.

Mae Ms Reker yn rhedeg y ras fel ymgeisydd annibynnol, ond mae wedi sicrhau cefnogaeth Canghellor yr Almaen, Angela Merkel a’i phlaid, ynghyd â dwy blaid arall, erbyd yr etholiad sy’n digwydd fory.