Mae’r heddlu’n gofyn am help y cyhoedd wrth drio dod o hyd i ddyn wedi i ferch 14 oed ddiodde’ ymosodiad rhyw ar fws.

Mae swyddogion adran priffyrdd a thrafnidiaeth, Heddlu’r Met yn Llundain, yn apeio am gymorth wedi’r digwyddiad ar fws llwybr 184 ar hyd Chesterfield Road yn Barnet, gogledd Llundain, tua 4.45yp dydd Iau, Mawrth 26 eleni.

Mae’r dyn wedi’i ddisgrifio fel un croenwyn, yn hanu efallai o ddwyrain Ewrop, gyda gwallt tywyll byr, ac yn gwisgo siaced ‘high-vis’ oren.

Mae Scotland Yard wedi rhyddhau lluniau teledu cylch-cyfyng.