Gwn Taser
Mae pobl ddu deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â digwyddiad lle mae gwn taser yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn na phobl croenwyn, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Gartref.

Cafodd yr arf ei ddefnyddio gan yr heddlu dros 38,000 o weithiau yn y pum mlynedd ddiwethaf yng Nghymru a Lloegr.

Roedd mwy na 12% o’r achosion yn ymwneud a pherson croenddu, tra mai 4% yn unig o’r boblogaeth sy’n ddu.

Roedd cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC wedi canfod bod gynnau llonyddu (stun guns) wedi cael eu defnyddio gan yr heddlu 38,135 o weithiau rhwng 2010 a 2015.

Cafodd ethnigrwydd y person ei gofnodi 36,038 o weithiau ac mewn 4,582 o ddigwyddiadau, roedd y peron yn ddu o dras Affricanaidd-Caribïaidd neu wyn cymysg ac o dras Affricanaidd-Caribïaidd.

Mewn 80% o’r achosion, doedd yr arf heb gael ei danio.

Plant

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos cynnydd yn y defnydd o Tasers yn erbyn plant, gyda 158 o achosion y llynedd yn ymwneud a phlentyn o dan 16 oed.

Mewn un achos, fe wnaeth swyddog yr heddlu dynnu ei wn taser o’i wregys mewn digwyddiad yn ymwneud a bachgen naw oed yn Hampshire.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu Llundain, Neil Basu nad oedd  Taser wedi cael ei danio yn y mwyafrif o achosion.

“Mewn 80% o’r achosion, dyw’r Tasers erioed wedi cael eu defnyddio ac mae’n stopio trais yn y fan a’r lle,” meddai.

Mae gynnau Taser yn cael eu defnyddio pan fydd “trais neu arwyddion o drais” yn unig, yn ôl Neil Basu.