Llysgenhadaeth Ecwador, yn Llundain lle mae Julian Assange wedi bod yn cael lloches
Mae swyddogion yr heddlu wedi rhoi’r gorau i fod ar ddyletswydd y tu allan i Lysgenhadaeth Ecwador yn Llundain, lle mae Julian Assange, sylfaenydd Wikileaks, yn cael lloches, yn ôl cyhoeddiad gan Scotland Yard heddiw.

Mae Julian Assange wedi bod yn cael lloches yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers 2012. Mae’n aros yno er mwyn ceisio osgoi cael ei estraddodi gan yr awdurdodau yn Sweden yn sgil honiadau o dreisio.

Amcangyfrifir bod y gost o gadw swyddogion yr heddlu yno ers tair blynedd tua £12miliwn.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Metropolitan eu bod yn bwriadu arestio Assange o hyd, ond bod eu blaenoriaethau wedi newid.

“Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae adnoddau Gwasanaeth Metropolitan yr Heddlu hefyd yn gyfyngedig,” ychwanegodd y llefarydd.

“Gyda nifer o wahanol fygythiadau troseddol a mathau eraill yn wynebu’r ddinas, nid yw lleoli swyddogion yr heddlu yno bellach yn gymesur.”