Ahmet Davutoglu, Prif Weinidog Twrci
Mae Prif Weinidog Twrci wedi dweud y bydd yr awdurdodau yn canolbwyntio ar y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wrth ymchwilio i ymosodiadau’r hunanfomwyr ym mhrif ddinas y wlad dros y penwythnos.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Ahmet Davutoglu, mewn cyfweliad â theledu NTV, fod yna dystiolaeth sy’n arwain at “grŵp arbennig o bobol”, ond fe wrthododd enwi’r rheiny.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod 97 o bobl wedi marw yn yr ymosodiad ffrwydrol ddydd Sadwrn yn Ankara, ond mae grŵp arall yn honni fod o leiaf 128 wedi marw.

Cafodd yr ymosodiad ei gynnal wrth i dyrfaoedd ymgasglu fel rhan o rali wedi’i threfnu gan weithredwyr Twrcaidd a Chwrdaidd i alw am fwy o ddemocratiaeth, ac i roi terfyn ar yr ymladd rhwng lluoedd amddiffyn Twrci â gwrthryfelwyr Cwrdaidd.

‘Canolbwyntio ar IS’

Yn ôl papur newydd Yeni Safak, mae’r awdurdodau yn canolbwyntio  ar y Wladwriaeth Islamaidd wrth ymchwilio i’r ymosodiadau.

Maen nhw’n bwriadu cymharu samplau o DNA’r rhai sy’n cael eu hamau gyda thua 20 o eithafwyr sydd wedi’u dal eisoes ac sy’n dod o deuluoedd y maen nhw’n honni iddyn nhw fod â chysylltiad.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond mae’r ymosodiadau yn ymdebygu at yr hunanfomio a gynhaliwyd ger tref Suruc ar ffin Syria ym mis Gorffennaf eleni.

Cafodd 33 o weithredwyr heddwch Twrcaidd a Chwrdaidd eu lladd bryd hynny, ac fe wnaeth y Llywodraeth roi’r bai ar IS.

Yn ôl papur newydd arall, Hurriyet, mae’r dyfeisiau ffrwydrol a ddefnyddiwyd yn Ankara yn debyg i’r math a ddefnyddiwyd yn Suruc.

‘Cors y Dwyrain Canol’

Fe ddywedodd Prif Weinidog Twrci ei fod yn credu fod ymosodiad Ankara wedi’i hanelu at ddylanwadu ar ganlyniad etholiad Twrci, sy’n cael ei gynnal ar 1 Tachwedd.

Fe wrthododd y Prif Weinidog y cyhuddiadau fod yr ymosodiadau o ganlyniad i gysylltiad Twrci ag anghydfod Syria a bod y Llywodraeth yn llusgo’r wlad “i gors y Dwyrain Canol.”

“Dyw’r ymosodiadau hyn ddim yn mynd i droi Twrci i mewn i Syria,” meddai’r Prif Weinidog Ahmet Davutoglu.

Mae Heddlu’r wlad wedi cadw pedwar aelod honedig o IS yn y ddalfa ers dydd Sul fel rhan o’r cyrch yn y ddinas Adana.

Bellach, mae tua 40 aelod honedig o IS wedi’u cadw yn y  ddalfa mewn pedwar dinas yn y wlad ers dydd Sadwrn. Dyw hi ddim yn glir eto a oes gan unrhyw un ohonyn nhw gysylltiadau ag ymosodiadau Ankara.

Yn ddiweddar, mae Twrci wedi cytuno i ragor o gefnogaeth i’r frwydr yn erbyn IS sy’n cael ei harwain gan yr Unol Daleithiau.

Mae’r wlad wedi agor canolfannau i awyrennau’r UDA i gynnal ymosodiadau o’r awyr ar grŵp o eithafwyr yn Syria, ynghyd â chyflawni nifer cyfyngedig eu hunain.