Mae dyn 21 mlwydd oed wedi marw wedi iddo gael ei drywanu yn ystod noson allan mewn bar yng ngogledd-orllewin Llundain neithiwr.

Fe gafodd Josh Hanson anaf difrifol i’w wddw wedi iddo ddiodde’ ymosodiad mewn bar o’r enw RE yn Eastcote tua 1 o’r gloch fore heddiw.

Fe gafodd yr heddlu a Gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu galw, ond bu farw yn y fan a’r lle.

Mae heddlu Scotland Yard yn dweud fod yna tua 40 o bobol yn y bar ar yr adeg honno, ac maen nhw’n apelio ar i lygad dystion ddod ymlaen i helpu’r ymchwiliad.