Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos llofruddiaeth bachgen yn ei arddegau a fu farw wedi i lwmp o goncrid gael ei daflu at ei gar, wedi cyhuddo trydydd dyn o greu anhrefn treisgar.

Fe gafodd y myfyrfiwr, Nassem Galleze, 17, ei ladd wedi i’r car Vauxhall Corsa yr oedd yn teithio ynddo fynd ar ei ben i bolyn lamp yn Brockley, de-ddwyrain Llundain, ar Fedi 26.

Mae disgwyl i Shiloh Moore, 21, o Hackney, dwyrain Llundain, ymddangos gerbron Llys Ynadon Wimbledon wedi’i gyhuddo o achosi anhrefn treisgar.

Mae Tershan Thompson-Williams, 21, a Remi Moore, 22, eisoes wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Bromley, wedi’u cyhuddo o’r un drosedd.