Scott Lawson - wedi dianc o HMP Springhill
Mae heddlu yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â mynd yn agos at garcharor sydd wedi dianc o garchar agored yn Lloegr.

Fe ddiflannodd Scott Lawson, 28, o HMP Springhill yn Swydd Buckingham ddoe.

Mae Heddlu Thames Valley wedi cyhoeddi rhybudd fore heddiw, ynghyd â disgrifiad o’r dyn chwe throedfedd o Wellingborough yn Swydd Northampton sydd â chraith ar ochr chwith ei ben.

“Mae swyddogion yn gweithio i drio dod o hyd i Lawson ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Y cyngor ydi i aelodau o’r cyhoedd beidio â mynd yn agos ato, ac i ffonio’r heddlu ar y rhif 101 gynted â phosib.”