Peter Andre
Mae Barnwr yn yr Uchel Lys wedi dweud bod seren ddiweddara’ Strictly Come Dancing, Peter Andre, yn “dyst anfoddhaol iawn” ac wedi cyflwyno tystiolaeth “nad oedd yn wir”.

Fe ddyfarnodd y Barnwr Flaux bod “iawndal sylweddol” yn ddyledus i gynhyrchydd rhaglen deledu realiti Peter Andre.

Bu Neville Hendricks yn cynhyrchu’r rhaglen i ITV2 cyn i’w berthynas gyda Peter Andre fynd mor sur nes i’r sianel benderfynu rhoi terfyn ar ei gytundeb.

Roedd Peter Andre wedi honni ei fod yn ofni y byddai Neville Hendricks yn ymosod yn gorfforol arno.

Hefyd bu i Andre hefyd honni bod Hendricks wedi bygwth lladd ei asiant, Claire Powell.

Ond yn ôl y Barnwr Flaux roedd yr honiad gan Peter Andre bod Hendricks wedi bygwth bywyd ei asiant yn “gelwydd llwyr”.

Yn ôl y Barnwr roedd Hendricks yn “dyst gonest yn y bôn”.

Daeth y Barnwr Flaux i’r casgliad fod ITV2 ar fai am derfynu cytundeb Hendricks i gynhyrchu sioeau realiti Peter Andre, a bod “iawndal sylweddol” yn ddyledus iddo.

Mae Hendricks yn hawlio iawndal rhwng £6m-£7m am golledion ers i ITV2 derfynu ei gytundeb yn 2011.

Daeth Peter Andre i enwogrwydd yn wreiddiol am ganu ‘Mysterious Girl’ yn 1996.