David Phillips
Mae llanc 18 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio plismon yng Nglannau Mersi.
Ymddangosodd Clayton Ronald Williams o Wallasey gerbron Llys Ynadon Cilgwri y bore ma i wynebu cyhuddiadau o ddwyn tryc Mitsubishi yn ystod byrgleriaeth a’i yrru at y Cwnstabl Dave Phillips a’i ladd.
Mae e hefyd wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i blismon arall, y Cwnstabl Thomas Birkett.
Mae’n wynebu nifer o gyhuddiadau eraill mewn perthynas â byrgleriaeth ddydd Llun.
Yn ystod y gwrandawiad, cadarnhaodd Williams ei enw a’i ddyddiad geni.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Lerpwl fore Gwener.
Roedd nifer sylweddol o blismyn y tu fewn a’r tu allan i’r llys y bore ma ar gyfer y gwrandawiad, ac roedd y diffynnydd mewn cyffion yn y llys ar gais cyfreithwyr yr erlyniad.
Fe fydd dyn arall, Philip Mark Stuart gerbron llys y bore ma mewn perthynas â’r achos.